Yn ddiweddar, mae cangen Cymorth i Deuluoedd ASD Sir Benfro wedi cyfarfod â'r aelod lleol o'r Senedd, Paul Davies. Mae'r gangen, a sefydlwyd ac a arweinir gan Melissa Hutchings, yn rhoi cymorth i bobl awtistig yn Sir Benfro ar ffurf gwybodaeth, cyngor, cyfeirio, hyfforddiant, cymorth un-i-un a chymorth grŵp.
Dywedodd Mr Davies, "Roedd yn bleser siarad â Melissa am y gangen Cymorth i Deuluoedd ASD ac rwy'n siŵr y bydd yn gymorth aruthrol i deuluoedd yn Sir Benfro. Buom yn siarad am ymarferoldeb cerdyn rhybuddio am awtistiaeth, a allai fod o werth gwirioneddol i bobl yn y sir. Hefyd buom yn trafod asesiadau diagnostig a'r angen i sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar draws sectorau, sefydliadau a phobl fel bod awtistiaeth yn cael ei gydnabod, bod ymwybyddiaeth yn cael ei feithrin a bod cymorth yn cael ei addasu.”
Ychwanegodd, "Rwyf wedi bod yn pwyso am Fil Awtistiaeth ers sawl blwyddyn bellach a byddaf yn parhau i drafod darpariaeth gwasanaethau awtistiaeth gyda Llywodraeth Cymru a galw am weithredu i wella amseroedd aros am ddiagnosis. Yn y cyfamser, mae'n wych clywed bod y grŵp hwn yn cefnogi plant awtistig a'u rhieni ledled Sir Benfro.”
I gael gwybod mwy am Cymorth i Deuluoedd ASD Sir Benfro, ewch i - www.asdfamilyhelp.org