Yn ddiweddar cafodd Paul Davies, Aelod o’r Senedd Preseli Sir Benfro, y cyfle i gyfarfod â Chyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda i drafod gwasanaethau iechyd lleol. Y Cyngor Iechyd Cymuned yw corff gwarchod annibynnol Gwasanaethau GIG ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Trafodwyd materion amrywiol yn y cyfarfod, gan gynnwys gwaith y Cyngor Iechyd Cymuned, y pandemig Covid-19 ac ymgynghoriad ‘Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19’ y Bwrdd Iechyd.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda am roi o’u hamser i gyfarfod. Wrth i’r Bwrdd Iechyd ddal ati gyda’i gynlluniau i ail-ffurfweddu gwasanaethau ledled y Gorllewin â mi, mae’n hollbwysig bod llais cadarn yn brwydro ar ran pobl Sir Benfro. Eglurais yn gwbl glir fy mod yn llwyr wrthwynebu cynlluniau’r Bwrdd Iechyd lleol i israddio Ysbyty Llwynhelyg. Mae’n rhaid i bobl sy’n byw yn Sir Benfro gael mynediad at wasanaethau iechyd o’r radd flaenaf yn yr ardal leol. Mae’r canoli a’r israddio gwasanaethau parhaus yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn annerbyniol ac mae’n hollbwysig bod y Bwrdd Iechyd yn cael ei herio a bod Ysbyty Llwynhelyg yn cael y buddsoddiad a’r cymorth sydd eu hangen arno.”
Ychwanegodd, “Trafodwyd y pandemig hefyd a’i effaith ar bobl sy’n byw ledled ardal y Bwrdd Iechyd. Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn cynnal dau arolwg byw ar ofal y GIG a gwasanaethau mamolaeth yn ystod y pandemig, er mwyn iddynt gael gwell syniad o brofiadau pobl. Mae rhagor o wybodaeth yma -
https://hywelddachc.nhs.wales/get-involved/live-surveys/
PIC CAP – Paul Davies MS gyda Donna Coleman, Chief Officer, Hywel Dda CHC a Mansell Bennett, Chair of the Hywel Dda CHC.