Mae’r bwriad i ddiwygio gwyliau ysgol yng Nghymru yn destun pryder i’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies AS. Gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru olygu cwtogi wythnos ar wyliau haf ysgolion ac ymestyn gwyliau hanner tymor mis Hydref o wythnos i bythefnos.
Dywedodd Mr Davies, "Mae addasu’r calendr ysgol yng Nghymru yn dasg enfawr ac mae’n hollbwysig bod yna drafodaeth lawn a gonest am y cynlluniau hyn. Pe bai calendr yr ysgol yn newid, byddai’n cael effaith ar blant a phobl ifanc, rhieni, athrawon a busnesau. Yn wir, bydd byrhau gwyliau haf ysgolion yn cael effaith enfawr ar fusnesau twristiaeth sydd, yn ddealladwy, yn poeni na fyddant yn gallu adennill yr arian a gollir yn sgil seibiant byrrach yn yr haf."
Ychwanegodd, "Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y diwygiadau hyn ac mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw ac yn dweud eu dweud. Gallwch ddarllen cynlluniau Llywodraeth Cymru a dweud eich dweud yn https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol”