Mae’r Aelod o’r Senedd Paul Davies wedi ymrwymo i gefnogi Deddf Aer Glân i Gymru fel rhan o’i ymdrechion i gefnogi Diwrnod Aer Glân ddydd Iau 17 Mehefin 2021. Bob blwyddyn, credir bod bron i 1,400 o bobl yn marw, bod biliwn o bunnoedd yn cael ei wario, a bod miloedd o ronynnau’n cael eu hanadlu gan genedlaethau’r dyfodol, a fydd yn effeithio ar eu hiechyd a’u datblygiad am ddegawdau i ddod. Felly, mae Paul Davies ac eraill yn galw am gyflwyno Deddf Aer Glân briodol yn y Chweched Senedd.
Meddai Mr Davies, “Mae lleihau effaith llygredd aer yn hanfodol bwysig a dyna pam rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a gwleidyddion ar draws Siambr y Senedd i gyflwyno Deddf Aer Glân yng Nghymru. Mae ansawdd aer gwael wedi’i gysylltu â chynnydd mewn asthma ymysg plant, dementia, clefyd yr ysgyfaint a chlefyd y galon, iechyd meddwl a gordewdra – felly mae’n rhaid gweithredu ar unwaith. Ar Ddiwrnod Aer Glân 2021, rwy’n ymrwymo unwaith eto i gefnogi Deddf Aer Glân, a byddaf yn gwneud popeth posibl i godi’r mater hwn yn y Senedd ac annog Gweinidogion y Llywodraeth i weithredu a chyflwyno’r ddeddfwriaeth bwysig hon.”