Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi galw am ddiddymu trwydded gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge.
Ysgrifennodd Mr Davies at y Prif Weinidog a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn galw am ddiddymu’r drwydded gan fod y gweithredwr wedi methu datrys y problemau gydag arogleuon ar y safle, er iddo addo gwneud hynny erbyn 5 Ebrill.
Mae etholwyr pryderus wedi mynegi eu rhwystredigaeth a’u siomedigaeth gyda Mr Davies, sydd nawr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac am ddiddymu trwydded y gweithredwr.
Meddai Mr Davies, “Rwy’n siomedig iawn bod y sefyllfa heb ei datrys erbyn 5 Ebrill, fel yr addawodd y gweithredwr. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud bod y broblem yn dal i fodoli ac o ystyried nad yw’r camau gweithredu hyd yma wedi datrys y mater hwn, mae ond yn briodol bod y drwydded yn cael ei diddymu.”
Ychwanegodd, “Mae’r arogleuon parhaus a ddaw o’r safle yn cael effaith fawr ar fywydau pobl ac mae’n gwbl annerbyniol. Er gwaethaf y sôn am weithredu, does fawr o gynnydd wedi’i wneud ac mae pobl yn dal i ddioddef. Mae’n amser i’r drwydded gael ei diddymu fel y gall y gymuned fyw heb orfod dioddef yr arogleuon ofnadwy o hyn allan.”