Croesawyd cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant gan yr Aelod lleol o Senedd Cymru, Paul Davies. Yn dilyn cyhoeddiad o £9.4miliwn gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Mr Davies ei bod yn bwysig bod y cyllid hwnnw'n cael ei gyflwyno i bob cwr o'r wlad fel bod cymorth a gwasanaethau hanfodol ar gael i blant sy'n byw yn Sir Benfro hefyd.
Dywedodd Mr Davies "Mae'n dda gweld cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i wasanaethau iechyd meddwl plant ond mae hefyd yn hanfodol bod y cyllid hwnnw'n cyrraedd plant ym mhob rhan o Gymru. Ni ddylid gadael cymunedau gwledig fel Sir Benfro ar ôl. Yn ôl y llinell gymorth i blant, MEIC Cymru, mae nifer y galwadau gan bobl ifanc, rhieni a gofalwyr wedi cynyddu 10% yn ystod y pandemig o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol ac felly mae'n hanfodol bod yr arian ychwanegol hwn yn cael ei gyflwyno'n gyflym i Gymru benbaladr, er mwyn helpu i amddiffyn a chefnogi plant gydol y pandemig.”