Mae Paul Davies, yr Aelod lleol o’r Senedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei chymorth ar gyfer busnesau twristiaeth ledled Sir Benfro a sicrhau bod busnesau'n gallu derbyn cymorth hanfodol gan y Llywodraeth. Mae hefyd yn galw ar Weinidogion y Llywodraeth ym Mae Caerdydd i ddatblygu strategaeth benodol ar gyfer twristiaeth yng ngoleuni'r pandemig Covid-19 sy'n ymwneud yn well â busnesau a chynrychiolwyr twristiaeth, yn darparu cyllid ar frys i'r busnesau hynny sydd mewn perygl o gau’n fuan ac sy'n cynnig arweiniad a chymorth cyffredinol i sicrhau bod y sector yn gynaliadwy at y dyfodol.
Dywedodd Mr Davies, “Mae busnesau twristiaeth yn rhan annatod o economi Sir Benfro ac mae’n rhwystredig clywed gan fusnesau ledled y Sir am y rhwystrau maen nhw wedi’u hwynebu wrth geisio cael gafael ar gymorth y Llywodraeth. Er fy mod i’n derbyn bod rhai busnesau wedi llwyddo i gael cyllid, nid fu eraill mor ffodus – ac mae’n naturiol eu bod yn pryderu am eu dyfodol. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati ar frys i ddatblygu strategaeth benodol i’r sector sy'n cefnogi'r diwydiant twristiaeth yn well i sicrhau ei fod yn para at y dyfodol.