Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi galw am weithredu brys ar ystadegau brawychus sy'n dangos bod llai na hanner y cleifion sy'n aros am driniaeth gofal llygaid wedi'u gweld o fewn y dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol. Mae'r ystadegau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 46.6% o gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd wedi cael eu hasesu, er bod y cleifion hynny mewn perygl o niwed na ellir ei wrthdroi.
Meddai Mr Davies, "Mae'n destun pryder mawr darllen bod llai na hanner yr holl gleifion sydd â phroblem llygaid brys yn cael eu gweld mewn amser priodol. Mae'r cleifion hyn yn aml yn byw mewn poen ac yn dioddef poen a'r hiraf y maen nhw’n aros am driniaeth, y mwyaf y maen nhw mewn perygl o niwed neu ddallineb na ellir ei wrthdroi."
"Dylai'r ystadegau hyn fod yn sbardun i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n gorfod blaenoriaethu hyn ar unwaith. Nid yw'n dderbyniol i gleifion fod yn aros mor hir am driniaeth a rhaid cymryd camau yn syth cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Rhaid ymdrechu ddwywaith caletach i recriwtio offthalmolegwyr ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi'r Bwrdd Iechyd i wella mynediad at wasanaethau a sicrhau bod gan y Bwrdd Iechyd y staff a'r adnoddau sydd eu hangen i leihau’r rhestrau aros hyn."