Mae galwad am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r sefyllfa barhaus ar safle tirlenwi Withyhedge wedi cael ei wneud gan yr Aelod lleol o’r Senedd, Paul Davies. Gwnaeth Mr Davies yr alwad yn Siambr y Senedd, wrth ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig pa mor wael oedd yn rhaid i’r sefyllfa fod cyn y gallai'r gymuned leol gael rhywfaint o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae Resource Management Ltd (RML), sy'n gweithredu safle Withyhedge, eisoes wedi derbyn sawl Rhybudd Gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac eto mae trigolion lleol yn dal i fyw gydag arogleuon ac allyriadau a allai fod yn wenwynig.
Meddai Mr Davies, "Wythnos ar ôl wythnos rwyf wedi sefyll i fyny yn Siambr y Senedd a gofyn i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn cefnogi'r gymuned leol. Mae pobl wedi cwyno am beswch, teimlo’n gyfoglyd a llygaid chwyddedig ac eto er gwaethaf geiriau cydymdeimladol Ysgrifenyddion Cabinet y Llywodraeth, nid oes unrhyw gefnogaeth wedi bod."
"Mae pobl Sir Benfro yn haeddu gwell ac felly rwy'n galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i ddeall yn iawn pam mae'r sefyllfa hon wedi cael ei thrin mor wael a pham mae fy etholwyr wedi cael eu siomi cymaint."