Mae’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi llongyfarch Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd ar eu dyrchafiad yn ôl i Uwch-gynghrair Cymru JD.
Wrth roi sylwadau ar eu camp, dywedodd Paul Davies “Mae’n wych y bydd Hwlffordd cyn hir yn cystadlu eto yn Uwch-gynghrair Cymru gyda thimau fel y Seintiau Newydd, y Bari a’r pencampwyr newydd, Cei Conna. Mae’r tîm rheoli a’r chwaraewyr wedi gwneud gwaith rhagorol wrth ddringo Cynghrair y De JD Cymru.”
“Gyda Stadiwn Conygar Bridge Meadow yn cael ei ystyried gan lawer fel un o gaeau pêl-droed gorau Cymru, da yw gweld yr Adar Gleision yn hedfan yn uchel unwaith eto.”
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i David Hughes a Rob Davies am eu gwaith fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd y clwb. Rwy’n nabod David ers blynyddoedd ac mae wedi gweithio’n ddiflino dros y clwb. Roeddwn i ar ben fy nigon o glywed bod David a Rob am aros ymlaen ar y Bwrdd wrth i Robert Edwards gymryd yr awenau fel Cadeirydd. Bydd eu gwybodaeth a’u profiad yn hollbwysig wrth symud i’r cyfnod newydd cyffrous hwn.”