Mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd lleol, wedi herio’r Prif Weinidog ynghylch strategaeth frechu Covid-19 Llywodraeth Cymru a’r diffyg canolfan brechu torfol yn Sir Benfro. Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (12 Ionawr), gofynnodd Mr Davies pam fod rhaglen gyflwyno’r brechlyn ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU a pham nad oes canolfan frechu yn Sir Benfro o hyd, er bod canran sylweddol o bobl hŷn yn byw yma.
Meddai Mr Davies, “Mae gweld Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth frechu yn gam ymlaen sy’n cael ei groesawu ond mae’n amlwg bod angen ymdrechu ddwywaith yn galetach i gyflymu dosbarthiad y brechlyn yn Sir Benfro. Yn anffodus, nid oes gan y Sir ganolfan frechu ac mewn ymateb i fy nghwestiwn ar y mater yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn hyderus y byddai un yn cael ei hagor yn y Sir. Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu’r ymrwymiad hwnnw, nid yw’n ddigon - mae pobl angen sicrwydd y bydd canolfan yn cael ei hagor cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, byddaf yn cadw llygad ar y mater ac yn dal ati i gyfathrebu â Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd lleol ynglŷn â hyn er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl.
Mae’r trawsgrifiad llawn ar gael yma - https://record.assembly.wales/Plenary/11146 (o baragraff 29)