Mynychodd yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, ddigwyddiad galw heibio i drafod dyfodol gwasanaethau meddygon teulu yn Nhyddewi a bu’n siarad â thrigolion am ddarpariaeth hirdymor gwasanaethau yn yr ardal. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn annog aelodau o'r gymuned i ddweud eu dweud am ddyfodol gwasanaethau. Mae'r digwyddiad galw heibio yn rhan o ymarfer ymgysylltu cyhoeddus ehangach y Bwrdd Iechyd gyda chleifion cyn iddo ystyried sut y bydd yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Meddai Mr Davies, "Mae fy safbwynt ar y mater hwn yn gwbl glir - dylai fod meddygfa yn Nhyddewi a rhaid i'r Bwrdd Iechyd sicrhau nad oes rhaid i gleifion deithio ymhellach i ffwrdd ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol. Dyw rhai cleifion ddim yn gallu teithio'n bell a does ganddyn nhw ddim mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ac felly mae meddygfa leol yn gwbl hanfodol."
"Rhaid i'r ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd fod yn ystyrlon, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd ddatblygu ffordd ymlaen yn seiliedig ar ymateb y gymuned leol. Siaradais â chleifion heddiw ac roedd yn amlwg eu bod eisiau gwasanaethau yn y gymuned, nid mewn mannau eraill. Mater i'r Bwrdd Iechyd nawr yw darparu'r gwasanaethau hynny yn y tymor canolig a'r tymor hwy."