Yn ddiweddar, mynychodd yr Aelod lleol o’r Senedd, Paul Davies fforwm ar-lein gydag elusennau lleol, a gynhaliwyd gan Stephen Crabb AS. Ystyriodd y fforwm ffyrdd y gellir cefnogi elusennau a sefydliadau trydydd sector lleol yn well gydol y pandemig Covid-19 a sut y gellir diogelu cynaliadwyedd y sector yn well ar gyfer y dyfodol.
Meddai Mr Davies, “Roedd y fforwm yn gyfle gwych i glywed gan sefydliadau lleol sut mae Covid-19 wedi effeithio ar ddarpariaeth eu gwasanaethau ledled Sir Benfro a byddaf yn sicr yn rhoi adborth ar y sgwrs a gawsom i’m cydweithwyr yn y Senedd. Mae’n hanfodol bod adnoddau ar gael i elusennau lleol, sy’n parhau i wneud gwaith mor bwysig wrth gefnogi pobl agored i niwed yn ein cymuned a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod y gefnogaeth yn digwydd.”