Mae Paul Davies, yr Aelod lleol, wedi rhoi datblygiad gwesty newydd ar lan y môr Aberdaugleddau gerbron Siambr y Senedd. Gofynnodd Mr Davies i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi datblygiadau fel y datblygiad Tŷ Hotel a chynyddu i’r eithaf unrhyw gyfleoedd busnes.
Meddai Mr Davies, “Wrth i ni symud allan o’r pandemig, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n creu amgylchedd ffrwythlon i fusnesau, fel y gellir datblygu cyfleoedd a sicrhau swyddi. Mae datblygiad Tŷ Hotel yn Aberdaugleddau yn esiampl wych o ddatblygiad a fydd nid yn unig yn trawsnewid yr ardal leol ond hefyd yn helpu i ddarparu swyddi a chefnogi’r economi leol. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn helpu i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer buddsoddi ac yn ystyried y pwerau sydd ganddi i wneud Sir Benfro - a gweddill Cymru - yn lleoliad sy’n denu a datblygu busnesau newydd. ”