Mae'r Aelod o'r Senedd Paul Davies wedi helpu gwirfoddolwyr yn ddiweddar i glirio llwybr Goose Pill yn Aberdaugleddau. Cyfarfu Mr Davies â'r cydlynydd gwirfoddolwyr lleol David Williams, a chafodd gyfle i glywed am waith y grŵp gwirfoddolwyr lleol a threulio peth amser ei hun yn clirio'r llwybr ac yn helpu i gadw'r ardal yn daclus ac yn ddiogel i gerddwyr lleol. Mae llawer o'r trigolion lleol yn mwynhau crwydro'r ardal, ac fe wnaeth Mr Davies ganmol ymdrechion Mr Williams ac eraill sydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau pob pawb yn gallu elwa ar yr ardal.
Dywedodd Mr Davies, "Mae ardal llwybr Goose Pill yn Aberdaugleddau yn fan prydferth i gerddwyr ac mae'n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i sicrhau bod y llwybr mor glir a diogel â phosibl. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda'r gwirfoddolwr lleol David Williams ac yn treulio rhywfaint o amser yn clirio'r llwybr fel bod modd parhau i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Mae cymaint o bobl yr ardal yn gwerthfawrogi'r llwybr troed, ond mae angen gwaith cynnal a chadw a chymorth parhaus arno. Felly, os hoffai unrhyw un helpu David, cysylltwch â ni. Mae'n chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd, felly os yw hyn yn apelio atoch, cysylltwch â David drwy ffonio 07475 713602.”