Yr wythnos hon codwyd dyfodol Meddygfa Solfach yn Siambr y Senedd gan yr Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies. Galwodd Mr Davies ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gymuned leol i sicrhau bod preswylwyr yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal leol, yn dilyn y newyddion bod y partneriaid meddygon teulu wedi cyhoeddi eu hymddeoliad.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n gwybod bod pryderon am ddarpariaeth gwasanaethau yn yr ardal yn y dyfodol, ac felly gofynnais i'r Gweinidog Iechyd pa gefnogaeth sy'n cael ei darparu i sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn eu hardal leol. Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd gydnabod bod heriau recriwtio meddygon teulu i Sir Benfro a bod gwaith yn mynd rhagddo i roi rhywbeth yn ei le erbyn diwedd mis Mawrth."
"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i recriwtio meddygon teulu i Sir Benfro a byddaf yn parhau i fachu ar bob cyfle i godi mater mynediad at wasanaethau sylfaenol gyda'r Gweinidog Iechyd."
Nodiadau i Olygyddion
Gallwch ddarllen y drafodaeth rhwng Paul Davies AS a'r Gweinidog Iechyd yma - https://record.senedd.wales/Plenary/13191#A77357 (o baragraff 219)