Mae’r Aelod o’r Senedd dros Preseli Penfro, Paul Davies, wedi ymateb i ddiweddariad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar safle tirlenwi Withyhedge, gan alw am gau'r safle. Heddiw (19 Gorffennaf), dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge wedi bodloni'r gofynion a nodwyd yn yr Hysbysiadau Gorfodi a gyflwynwyd iddo, ond y bydd ymchwiliadau pellach yn parhau.
Meddai Mr Davies, "Er bod RML bellach wedi cydymffurfio â'r Hysbysiadau Gorfodi diweddaraf, mae pobl yn parhau i ddioddef yn sgil y gweithredwr hwn ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol cau'r safle. Mae CNC wedi’i gwneud hi’n glir bod ymchwiliadau pellach yn dal i gael eu cynnal a gallai'r gweithredwr wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â thorri amodau ei drwyddedau amgylcheddol."
"Gallaf eich sicrhau bod hyn ymhell o fod drosodd ac mae'n bwysicach fyth nawr bod ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i reolaeth safle tirlenwi Withyhedge, fel y gall y gymuned gael yr atebion y mae'n ei haeddu a gall y gweithredwr fod yn atebol am ei weithredoedd."
Nodiadau i Olygyddion
Gellir dod o hyd i ddiweddariad diweddaraf safle tirlenwi Withyhedge yma - https://naturalresources.wales/about-us/news-and-blogs/news/withyhedge-landfill-update-enforcement-notice-compliance/?lang=cy