Mae newyddion bod Banc Barclays yn bwriadu cau ei gangen Hwlffordd ar 10 Mai 2024 wedi siomi ac achosi rhwystredigaeth i’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies.
Mae Mr Davies wedi derbyn gohebiaeth yn cadarnhau y bydd y gangen yn cau ym mis Mai, yn dilyn gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy'n ei defnyddio.
Meddai Mr Davies, "Siomedig iawn oedd clywed y bydd cangen banc arall eto fyth yn cau yn Sir Benfro. Er fy mod yn deall bod y ffordd y mae llawer ohonom ni’n bancio yn wahanol iawn bellach, mae yna gwsmeriaid o hyd sy'n dibynnu ar bresenoldeb banc ffisegol, a byddaf yn ceisio cael sicrwydd y bydd cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at gyfleusterau bancio sylfaenol yn Hwlffordd."
Ychwanegodd hefyd, "Mae canghennau banc hefyd yn rhan o wead cymdeithasol ein cymunedau lleol ac mae'r cyhoeddiad hwn yn ergyd arall i dref Hwlffordd. Rhaid gwneud ymdrechion yn sgil y cyhoeddiad hwn i helpu i adfywio'r dref cyn ei bod hi'n rhy hwyr."