Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, wedi mynegi ei rwystredigaeth gyda ffigurau sy'n dangos bod dros 2,000 o blant yn disgwyl am ddiagnosis awtistiaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod 590 o blant wedi aros dros 24 mis am ddiagnosis.
Meddai Mr Davies, "Mae'n annerbyniol fod plant yn aros misoedd - ac mewn rhai achosion blynyddoedd - i dderbyn diagnosis. Mae'n dangos yn union pam mae angen Bil Awtistiaeth mor daer yng Nghymru a phe na bai wedi cael ei rwystro gan Lywodraeth Cymru, y ddeddfwriaeth honno yn fy marn i, fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis heddiw."
Ychwanegodd, "Yn anffodus, y ffigurau hyn yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o ganlyniadau iechyd gwael yng Nghymru, sy'n cynnwys yr arosiadau hiraf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym Mhrydain, rhestr aros hiraf y GIG yn y DU a'r amseroedd ymateb arafaf i ambiwlansys a gofnodwyd."