Mae Paul Davies yr AS lleol wedi clywed gan yr elusen defnyddwyr Electrical Safety First am eu hymchwiliad sydd wedi dod i’r casgliad bod llawer o gynhyrchion trydanol sydd ar werth mewn marchnadoedd ar-lein ar gyfer gwallt a harddwch yn anaddas i’w gwerthu i ddefnyddwyr yng Nghymru fel yr hysbysebwyd nhw, gan roi pobl mewn perygl o sioc drydanol a thân. Dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae pob siop trin gwallt a salon harddwch yng Nghymru ar gau dros dro, ac o ganlyniad, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd eisiau torri eu gwalltiau eu hunain – mae data Google Trends yn dangos bod lefelau chwilio’r we ar gyfer clipwyr gwallt yn uwch nag erioed ym mis Ebrill.
Yn ôl Mr Davies “Gan fod siopau trin gwallt a salonau harddwch ar gau ar hyn o bryd yng Nghymru, mae’n hawdd deall bod pobl yn prynu cynhyrchion i’w defnyddio yn eu cartrefi eu hunain. Mae Electrical Safety First wedi sôn am eu pryderon am y cynhyrchion harddwch peryglus sy’n cael eu gwerthu ar-lein – ac efallai nad yw hi’n amlwg yn syth o’r hysbysebion pam eu bod yn beryglus. Felly, rydw i’n gwbl gefnogol i unrhyw ymgais i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon ac i annog pobl i fod yn arbennig o wyliadwrus wrth brynu cynhyrchion. Da chi darllenwch yr holl fanylion am yr eitem cyn prynu – a pheidio prynu os nad ydych chi’n gwbl hyderus y gallwch chi ddefnyddio’r eitem yn ddiogel yn eich cartref.”
Fel rhan o ymchwiliad ciplun, cynhaliodd yr Elusen ddadansoddiad gweledol o 15 o eitemau a oedd wedi’u rhestru , wedi’u dosbarthu’n gyfartal ar draws Amazon Marketplace, eBay a Wish. Yn seiliedig ar asesiad gweledol o’r eitemau a restrwyd, fel yr hysbysebwyd nhw, daethpwyd i’r casgliad bod pob un yn hynod o beryglus i’r defnyddiwr.
Meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus Electrical Safety First: “Ar adeg pan fo disgwyl i bawb dreulio mwy o amser dan do, mae’n bwysicach nag erioed bod y cynhyrchion sy’n dod i mewn i’n cartrefi yn ddiogel. Yr hyn rydyn ni wedi’i ganfod yw enghraifft o werthwyr trydydd parti’n rhoi defnyddwyr mewn perygl drwy gynhyrchion sydd o ddiddordeb arbennig ar hyn o bryd. Gan fod cynifer o ddefnyddwyr yng Nghymru yn mynegi diddordeb yn yr eitemau hyn ar hyn o bryd, byddem yn annog defnyddwyr i brynu cynhyrchion trydanol gan fanwerthwyr cyfrifol yn unig ac i Lywodraeth Cymru gymryd camau i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith y gall prynu eitemau trydanol mewn marchnadoedd ar-lein arwain at danau yng nghartrefi pobl yng Nghymru.”