Mae Paul Davies, Aelod o’r Senedd Preseli wedi ymuno â’r ymgyrchydd lleol Abby Bryan i helpu i godi arian hanfodol ar gyfer Crohn’s and Colitis UK. Mae Abby Bryan o’r Hwlffordd yn cerdded 186 milltir ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro mewn ymgais i godi arian ar gyfer yr elusen. Mae Abby, sydd wedi bod â cholitis wlseraidd ers pedair blynedd ar bymtheg, yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a chodi arian i gefnogi gwaith Crohn’s and Colitis UK. Ymunodd Mr Davies â Ms Bryan ar lwybr yr arfordir o Ben-caer i Wdig.
Meddai Mr Davies, “Mae Abby yn codi arian i achos mor deilwng ac roeddwn i’n falch iawn o allu cymryd rhan a helpu i ledaenu’r neges. Yn anffodus, mae gan lawer o bobl sy’n byw gyda Crohn’s a Cholitis symptomau cudd fel lludded, poen yn y cymalau, insomnia, crampiau ystumog ac iechyd meddwl gwael. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a chodi arian ar y daith gobeithio. Mae Abby wedi bod yn llysgennad rhagorol i’r elusen ac roedd hi’n fraint cymryd rhan drwy gerdded rhywfaint o’r llwybr gyda hi. Mae’n parhau gyda’i hymdrechion dros yr wythnosau nesaf ac os ydych chi am gyfrannu neu gymryd rhan, yna ewch i dudalen codi arian Abby yn - https://www.justgiving.com/fundraising/Abby-Bryan2?utm_source=facebook&fbclid=IwAR3IPZYzVE8bGNZXeiy8jqQBJxSNyRVod1jO8NWFzvI_fy9SpJcRS5-wG_8.”
Meddai Abby: “Rwy’n ddiolchgar i Paul am ymuno â mi ar fy nhaith ac roedd hi’n braf gallu mwynhau arfordir hyfryd Sir Benfro gydag e. Mae Crohn’s a Cholitis yn glefydau sy’n effeithio ar y coluddyn a dyw llawer o bobl ddim yn teimlo’n gyfforddus yn eu trafod, ond maen nhw’n gallu cael effaith enfawr ar fywyd bob dydd. Fy ngobaith yw codi arian sydd mawr ei angen i’r elusen, ond hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n byw gyda’r cyflyrau.
Gyda Covid yn effeithio ar fynediad i doiledau cyhoeddus dros y 18 mis diwethaf, mae’n bwysig iawn bod pobl yn deall y cyflyrau cronig gydol oes hyn a rhai o’r problemau cysylltiedig, fel yr angen brys i ddefnyddio’r toiled. Mae Crohn's and Colitis UK yn gwneud gwaith rhagorol gan weithio gyda gwleidyddion i godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth i’r rhai sy’n cael eu diagnosio gyda’r cyflyrau.”
PIC CAP - Paul Davies MS, Abby Bryan, Cllr David Bryan