Yn ddiweddar, aeth yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, ar ymweliad â Gwaith Trin Dŵr Bolton Hill i gwrdd â Dŵr Cymru ac i ddysgu mwy am y broses o drin dŵr.
Cafodd Mr Davies ei dywys o gwmpas y safle gan gynrychiolwyr Dŵr Cymru, a esboniodd bob un o'r gwahanol gamau yn y broses o drin dŵr, o echdynnu dŵr amrwd i ddŵr wedi'i drin yn llawn i'w ddosbarthu i gwsmeriaid.
Dywedodd Mr Davies, “Rwy’n ddiolchgar iawn i dîm Dŵr Cymru am gymryd yr amser i roi taith i mi o gwmpas y safle a rhoi mwy o wybodaeth i mi am y broses o drin dŵr."
“Mae ansawdd dŵr yn hollbwysig i ni i gyd ac roedd yn wych cael gwell dealltwriaeth o sut yn union y mae'n cael ei drin.”
“Roedd yn ymweliad addysgiadol iawn, a chawsom drafodaeth dda iawn am amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ansawdd dŵr a thrin dŵr ar ôl y daith o’r safle.”