Mae'r Aelod o'r Senedd lleol Paul Davies wedi ymweld â Hangar 5 yn ddiweddar, sef canolfan trampolinau a lle chwarae meddal yn Hwlffordd, i drafod effaith Covid-19 ar y busnes. Cafodd Mr Davies gyfarfod â'r perchennog Kevin Howells i glywed am rai o heriau’r cyfyngiadau Covid ar y busnes a beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r sector.
Dywedodd Mr Davies, "Roedd hi'n bleser ymweld â Hangar 5 a dysgu mwy am y busnes. Mae'n gyfleuster ardderchog sydd wedi cael amser anodd oherwydd pandemig Covid-19 ac felly mae'n hanfodol bod y gymuned leol yn cefnogi busnesau lleol fel hyn, wrth i'r cyfyngiadau godi. Cawsom drafodaeth onest am bob math o faterion dan haul, fel cyllid grant, rhenti busnes a phecynnau cymorth. Gan fod cyfyngiadau'r Llywodraeth yn dal i effeithio ar rai busnesau, mae'n hanfodol eu bod yn cael cymorth gan y Llywodraeth i oroesi'r storm. Byddaf yn mynd â'r neges honno'n ôl i'r Senedd ac yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi busnesau fel y gallant barhau i aros ar agor ar gyfer y dyfodol.”