Mae’r Aelod Seneddol dros Preseli Sir Benfro, Paul Davies wedi gweld effaith y gwaith a ariannwyd trwy’r Loteri Genedlaethol i gefnogi gweithgareddau plant a phobl ifanc yn ei etholaeth
Mae POINT (Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Abergwaun ac Wdig Cyf) yn cynnal canolfan ieuenctid galw heibio yn Abergwaun, Sir Benfro sy’n darparu lle cyffrous a diogel i bobl ifanc 10-25 oed i gyfarfod, mwynhau gweithgareddau a chyrchu gwasanaethau am ddim. Eu nod yw sicrhau bod y cyfnod pontio i bobl ifanc rhwng plentyndod a bod yn oedolyn mor hawdd a di-straen â phosibl, gyda gweithwyr ieuenctid bob amser ar gael i gynnig cyngor, arweiniad a sgwrs. Gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, maen nhw wedi gallu cynnal nifer o weithgareddau, gan gynnwys eu prosiect ‘Meithrin y Dyfodol’. Derbynion nhw grant £434,318 i ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn Abergwaun, Wdig a’r cyffiniau. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cwnsela, mentora gwirfoddol, gweithgareddau lles a sesiynau codi ymwybyddiaeth i weithwyr cymorth, rhieni a gofalwyr.
Mae’r ganolfan hefyd wedi elwa o grant £4,804 i addurno ac adfywio eu canolfan gyda dodrefn newydd a safle TG, gan wneud y lle’n fwy croesawgar a dymunol i ddefnyddwyr, yn ogystal â grwpiau allanol sy’n llogi’r lleoliad at ddibenion tiwtora.
Dywedodd Zoe Davies, Rheolwr Cyffredinol POINT “Roeddem yn ffodus iawn i dderbyn y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2020 i gynnal ein prosiect iechyd a lles emosiynol ar lawr gwlad. Bydd y cyllid yn dod i ben ym mis Awst ac rydym yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau cyllid pellach ar gyfer y prosiect hwn yn y dyfodol. Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn dal i gael trafferth gydag effeithiau’r pandemig ar eu hiechyd a lles emosiynol ac mae angen i ni barhau â’n gwaith. Rydym ni mor falch bod Paul wedi dod i ymweld â’n prosiect ac wedi dangos cymaint o ddiddordeb a thosturi ar gyfer ein darpariaeth galw heibio i bobl ifanc yng Ngogledd Sir Benfro”.
Dywedodd Paul Davies AS, “Mae POINT yn gwneud gwaith gwych wrth gefnogi pobl ifanc yng Ngogledd Sir Benfro ac felly mae’n wych gweld y Loteri Genedlaethol yn eu cefnogi. Mae eu prosiect ‘Meithrin y Dyfodol’ yn rhoi cymorth hollbwysig i gefnogi iechyd a lles meddyliol pobl ifanc yn Abergwaun ac Wdig ac rwy’n gwybod y bydd y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.” “Rwy’n ddiolchgar iawn i Zoe a’r tîm am gymryd yr amser i ddangos y cyfleusterau i mi a does dim dwywaith amdani, bydd POINT yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n hynod werthfawr i weld y gwaith gwych y mae POINT yn ei gynnig yn eu cymuned. Rydym yn falch bod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi eu galluogi i wneud cymaint o wahaniaeth yn eu cymuned.”