Bu’r Aelod o’r Senedd lleol yn ymweld â Stablau Nolton yn Hwlffordd yn ddiweddar i glywed mwy am yr heriau y maent wedi’u hwynebu o ganlyniad i Covid-19 a dysgu mwy am gynlluniau’r busnes i arallgyfeirio. Mae Stablau Nolton yn cynnig llety ar y safle yn ogystal â gweithgareddau amrywiol fel marchogaeth ar y traeth ac yng nghefn gwlad a hyd yn oed sorbio a segways. Yn ddiweddar, mae Stablau Nolton wedi sefydlu profiad sinema ‘gyrru i mewn’, lle gallwch barcio’ch car a gwylio ffilm wrth fwynhau golygfeydd o Fae Sain Ffrêd yn y cefndir.
Meddai Mr Davies, “Roedd yn bleser ymweld â Stablau Nolton a chlywed sut mae Covid-19 wedi effeithio ar y busnes eleni. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddysgu mwy am yr heriau sydd wedi wynebu’r busnes, a byddaf yn mynd â’r adborth hwnnw’n ôl i’r Senedd. Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn ddi-os, ond mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn gan arallgyfeirio lle bo hynny’n bosibl. Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn Stablau Nolton yn rhagorol, a byddaf yn cadw llygad am y gyfres nesaf o nosweithiau ffilm! Mae rhagor o wybodaeth am y ffilmiau sy’n cael eu dangos ar gael yma - https://noltondrive.in/”