Mae Paul Davies, Aelod o'r Senedd Preseli Penfro, yn cefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari drwy ddod yn Arwr Ofari Target a chodi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari. O gael diagnosis yn y cam cynharaf, credir bod naw o bob deg menyw yn goroesi canser yr ofari, ond mae dwy ran o dair o bobl yn cael diagnosis hwyr, pan fydd yn anoddach ei drin. Y pedwar symptom allweddol i gadw llygad amdanyn nhw yw ymchwyddo parhaus, teimlo'n llawn yn gyflym a/neu golli archwaeth, poen yn y pelfis neu'r abdomen a gweithgarwch wrinol anarferol.
Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n falch iawn o fod yn Arwr Ofaraidd Target a helpu i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari. Os byddwch chi'n cael unrhyw un neu fwy o'r symptomau hyn yn rheolaidd, nad ydyn nhw’n arferol i chi, yna mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu. Efallai nad yw'r symptomau hyn yn cael eu hachosi gan broblem ddifrifol, ond mae'n dal i fod yn bwysig cael y meddyg i fwrw golwg arnyn nhw. O gael diagnosis cynnar, mae llawer o bobl yn goroesi canser yr ofari ond gwyddom fod llawer o bobl yn cael diagnosis hwyr yn aml. Felly os ydych chi'n cael unrhyw un o'r symptomau cyffredin, peidiwch ag oedi da chi. Mae'n bwysig hefyd ein bod yn codi ymwybyddiaeth o'r symptomau felly siaradwch â'ch ffrindiau a'ch teulu am ganser yr ofari er mwyn helpu ein cymunedau i ddod yn fwy gwybodus am beth i gadw llygad amdano.”