Yn dilyn y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflymu'r broses o frechu ledled y wlad, mae Aelod o'r Senedd lleol wedi rhybuddio bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod grwpiau blaenoriaeth a gweithwyr rheng flaen ym mhob cwr o Gymru yn cael y brechlyn ar frys. Gan fod brechlynnau Pfizer a Rhydychen/AstraZeneca bellach ar gael, galwodd Mr Davies ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynllun brechu – a bod Gweinidog penodol yn gyfrifol am hynt y broses.
Dywedodd Mr Davies, "Mae argaeledd brechlyn Rhydychen yn garreg filltir bwysig yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac mae Llywodraethau ar bob lefel yn iawn i fod yn bwyllog obeithiol at y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynllun trefnu brechlynnau, gan gadarnhau nifer y brechlynnau y bydd pob Bwrdd Iechyd yn eu cael, gyda set o dargedau i sicrhau ein bod yn sicrhau cynnydd y gwaith. Wrth gwrs, mae'n hanfodol bod grwpiau blaenoriaeth a gweithwyr rheng flaen yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl - ac rwy'n gobeithio gweld llawer mwy o bobl Sir Benfro yn cael eu brechu dros y dyddiau nesaf. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gefnogi Bwrdd Iechyd Hywel Dda wrth ymdrechu i sicrhau bod y brechlyn yn cyrraedd pob rhan o ranbarth y Bwrdd Iechyd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y rheolwyr am eu cynlluniau i gyflwyno'r brechlyn yn Sir Benfro maes o law.”