Yn ddiweddar, fe wnaeth Paul Davies, yr Aelod lleol o'r Senedd, gyfarfod â rheolwyr siop Boots leol i drafod gofal iechyd yn y gymuned a sut mae Boots yn gweithio i wella gwasanaethau fferylliaeth. Cyfarfu Mr Davies ag Alex Williams a Rebecca Thomas yn siop Boots yn Hwlffordd a threuliodd dipyn o amser yn dysgu sut mae Boots wedi bod yn cynorthwyo cwsmeriaid drwy gydol pandemig Covid-19 ac yn helpu i roi'r brechlyn ffliw i bobl.
Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n ddiolchgar iawn i Alex a Rebecca am roi o'u hamser i sgwrsio â mi am rai o'r ffyrdd y mae Boots wedi bod yn helpu cwsmeriaid drwy gydol y pandemig. Boots yw un o'r cyflogwyr sy'n cyflogi'r nifer fwyaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y wlad y tu allan i'r GIG, gan gynnig gwasanaethau fferylliaeth ac iechyd y llygaid a'r clustiau ac maent yn darparu'r gwasanaethau hyn ar y stryd fawr gan wneud y gwasanaethau hynny mor hygyrch â phosibl. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd derbyn gofal iechyd mor agos i'r cartref â phosibl ac mae'n wych gweld Boots yn darparu triniaethau a gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau lleol.”