Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi ymuno â’i gydweithwyr yn y Senedd i fynychu lansiad swyddogol Sioe Frenhinol Cymru 2023. Mae’n sioe amaethyddol pedwar diwrnod o hyd gyda llu o gystadlaethau da byw a cheffylau yn ogystal ag arddangosfeydd bwyd a diod Cymreig, arddangosfeydd crefft a stondinau masnach. Ymunodd Aelodau â chynrychiolwyr sefydliadau a grwpiau gwledig i glywed mwy am y rhaglen ar gyfer y Sioe eleni a rhoddodd Llywydd y Senedd a'r Gweinidog Materion Gwledig areithiau hefyd ar bwysigrwydd y Sioe fel ased diwylliannol ac economaidd.
Meddai Mr Davies, "Sioe Frenhinol Cymru yw'r uchafbwynt yng nghalendr amaethyddol Cymru, ac roedd yn wych ymuno ag Aelodau o'r Senedd o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol ar gyfer lansiad swyddogol y Sioe eleni. Rwy'n edrych ymlaen at fynychu'r Sioe fy hun ac rwy'n gobeithio gweld llawer o bobl o bob rhan o Sir Benfro yn y digwyddiad.
"Wrth gwrs, ym mis Awst bydd Sioe Sir Benfro yn gyfle gwych arall i bobl ddod at ei gilydd i wylio arddangosfeydd, cystadlu a dathlu bwyd a diod rhagorol Sir Benfro. Rhaid cofio bod sioeau fel Sioe Frenhinol Cymru a Sioe Sir Benfro yn dibynnu'n helaeth ar gefnogaeth cymaint o wirfoddolwyr, sy'n rhoi o'u hamser rhydd i wneud i'r digwyddiadau hyn ddigwydd - ac felly rwy'n talu teyrnged i'w hymrwymiad a'u gwaith caled wrth gynllunio’r digwyddiadau hyn ac edrychaf ymlaen at ymweld â’r ddwy sioe eto eleni."