Mae Paul Davies, Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, wedi ymweld ag Ocky White Travel yn Hwlffordd i siarad â'r perchennog Mark White am y materion sy'n wynebu'r sector teithio o ganlyniad i Covid-19. Clywodd Mr Davies sut roedd y sector yn arbennig o fregus oherwydd y cyfyngiadau parhaus a bod angen cymorth ychwanegol er mwyn helpu'r sector i oroesi'r pandemig.
Meddai Mr Davies, "Mae'r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar y sector teithio ac oni bai bod cymorth brys ar gael, yna mae'r dyfodol yn edrych yn eithaf llwm. Codais y mater hwn yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn Siambr y Senedd a byddaf yn ysgrifennu at Weinidog yr Economi, gan bwyso am sicrhau bod cymorth ar gael cyn gynted â phosibl. Mae Ocky White Travel wedi gwasanaethu pobl Sir Benfro ers blynyddoedd – ond mae angen help arno i barhau'n hyfyw a byddaf yn sicr yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i bwyso am ddarparu adnoddau pellach er mwyn amddiffyn busnesau fel hyn ar gyfer y dyfodol."