Mae’r Aelod o’r Senedd, Paul Davies, wedi ymweld â Gorsaf Bŵer RWE i drafod cyfleoedd prydlesu ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn ôl yr angen yn y Môr Celtaidd. Cafodd Mr Davies gipolwg hefyd ar Ganolfan Sero Net Penfro a bu’n trafod technolegau arloesol newydd sydd eu hangen ar gyfer dyfodol carbon isel, gan gynnwys cynhyrchu hydrogen a Chasglu a Storio Carbon. Yn dilyn y drafodaeth, cafwyd taith safle i ddangos i Mr Davies rywfaint o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan RWE i ddatgarboneiddio.
Meddai Mr Davies, “RWE yw cynhyrchydd ynni a chynhyrchydd trydan adnewyddadwy mwyaf Cymru, a gwych oedd clywed mwy am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae Canolfan Sero Net Penfro yn dangos ymhellach ymrwymiad RWE i ddatgarboneiddio Cymru a’r DU ac mae’r gwaith y maen nhw eisoes wedi’i wneud yn y maes hwn wedi gwneud argraff fawr arnaf. Cawsom drafodaeth ddiddorol iawn am hydrogen gwyrdd a datblygu cyfleoedd gyda thechnolegau newydd i ategu eu gwaith hyd yma ar yr agenda hwn.”
Ychwanegodd, “Mae defnyddio gwynt arnofiol yn cynrychioli buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd mewn ynni glân a chyfle datblygu economaidd i Sir Benfro a thu hwnt. Mae RWE yn ymwneud â chyflogwyr mawr a’r gadwyn gyflenwi i nodi’r gofynion sydd eu hangen i adeiladu cadwyn gyflenwi gadarn a llewyrchus yn y dyfodol.”