Yn ddiweddar, bu’r Aelod o’r Senedd, Paul Davies, yn ymweld â llety cŵn moethus ger Hwlffordd. Treuliodd Mr Davies amser yn llety Millin Brook Luxury Dog Boarding Kennels, sy’n cynnig profiadau gwyliau wedi’u teilwra i gŵn.
Sefydlwyd y busnes yn 2018 gan Siân Smith, swyddog heddlu wedi ymddeol, ac mae wedi ennill clod cenedlaethol mewn dim o dro. Cipiodd wobr Busnes Llety Cŵn y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffederasiwn y Diwydiant Anifeiliaid Anwes 2022, cafodd ei gydnabod fel un o fusnesau blaengar mwyaf eithriadol y flwyddyn yn rownd derfynol Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr 2022 ac enillodd wobr Entrepreneur y Flwyddyn i fusnesau teuluol hefyd.
Dywedodd Mr Davies, “Mae Millin Brook yn stori o lwyddiant gwirioneddol yn Sir Benfro ac roeddwn wrth fy modd yn ymweld â’r safle a dysgu mwy am y profiadau sydd ar gael. Mae wir yn llafur cariad ac roedd yn wych gweld y cyfleusterau eithriadol yno a dysgu mwy am eu gwaith.”
Ychwanegodd, “Mae’n wych gweld Millin Brook yn cael ei gydnabod yn genedlaethol am ei safonau uchel ac rwy’n siŵr y bydd y busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol. Rwy’n dymuno pob lwc i Sian a Dave yn y dyfodol a does gen i ddim amheuaeth y bydd Millin Brook yn parhau i dderbyn canmoliaeth uchel a chydnabyddiaeth yn y dyfodol.”
Capsiwn llun: Paul Davies AS gyda Dave a Sian Smith o Millin Brook Luxury Dog Boarding.