Mae Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol wedi cyfarfod cynrychiolwyr undeb y ffermwyr NFU Cymru i drafod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Parthau Perygl Nitradau yng Nghymru. Clywodd Mr Davies am y diffyg tystiolaeth i gyfiawnhau dull Cymru gyfan o fynd i’r afael â Pharthau Perygl Nitradau ynghyd â’r effaith niweidiol y byddai’r mesurau rheoleiddio arfaethedig yn ei chael ar ffermwyr ledled y wlad.
Meddai Mr Davies, “Pe bai Llywodraeth Cymru yn dal ati i ddefnyddio dull Cymru gyfan o fynd i’r afael â Pharthau Perygl Nitradau, gallai roi pwysau enfawr ar ffermwyr ac yn sgil hynny, gorfodi llawer allan o fusnes. Gallai’r cynigion hyn gael goblygiadau ariannol sylweddol ar gyfer ein ffermwyr a’r economi wledig ehangach ac rwy’n bryderus nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i gynnal i ddangos sut bydd y cynigion hyn yn gwneud gwahaniaeth.
Mae diwydiant amaethyddol Cymru eisoes yn wynebu nifer o heriau ac felly bydd cyflwyno’r cynigion hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar fusnesau ffermio, a fydd yn cael ôl-effaith ar gontractwyr amaethyddol a’r economi wledig ehangach. Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ei safbwynt ar unwaith a dod o hyd i ffordd ymlaen sy’n gweithio gyda ffermwyr Cymru, nid yn eu herbyn.”