Mae adroddiad yn galw am gamau brys i wella mynediad at gyfleusterau bancio a pheiriannau ATM wedi’i groesawu gan yr Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies. Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad gyda chyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru i wella mynediad at beiriannau ATM ledled y wlad. Nododd yr adroddiad fod Cymru wedi colli dros ddwy o bob pump o’i changhennau banc rhwng mis Ionawr 2015 a mis Awst 2019, gan golli 239 i gyd.
Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai AC Preseli Sir Benfro, Paul Davies: “Mae mynediad at fancio wedi bod yn broblem fawr yn Sir Benfro ers tro byd. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld canghennau banc yn cau ledled y sir, ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol iawn ar hyfywedd ein cymunedau lleol. Felly, rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor ac unrhyw ymdrechion i geisio gwella’r sefyllfa bresennol. Dydy bancio ar-lein ddim yn opsiwn i rai pobl, felly mae’n hollbwysig eu bod nhw’n gallu cael mynediad at eu harian eu hunain. Byddaf yn monitro cynnydd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn ofalus iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i wella mynediad at gyfleusterau bancio yn Sir Benfro a ledled Cymru.”