Mae’r Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies, wedi galw am gyflwyno cymorth busnes pellach yng Nghymru. Mae Mr Davies wedi annog Llywodraeth Cymru i lenwi’r holl fylchau sy’n wynebu busnesau yn ystod y pandemig Covid-19, wedi i ddata gan y Ganolfan Ymchwil Menter ddangos mai economi Cymru allai ddioddef fwyaf yn sgil y Coronafeirws, gyda 2,359 o gwmnïau’n cael eu diddymu a gostyngiad o 28% yn nifer y busnesau newydd sy’n cael eu sefydlu.
Dywedodd Mr Davies, “Er bod croeso mawr i’r pecynnau cymorth a gyflwynwyd, ac rwy’n siŵr eu bod yn cael croeso brwd gan y rheiny sy’n eu derbyn, mae yna fusnesau o hyd sy’n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl oherwydd nad yw’r gefnogaeth naill ai ar gael, nad yw’n hygyrch neu nad yw yn y bôn yn cwmpasu’r anghenion y rhai sy’n gweithio yn y sectorau hynny. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fireinio ei phecynnau cymorth i adlewyrchu’r ystod amrywiol o fusnesau yng Nghymru yn well, ac i sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y rhai sydd gwir ei hangen. Rwy’n dal i dderbyn gohebiaeth gan fusnesau sy’n llithro trwy’r bylchau yn y ddarpariaeth sydd ar gael, ac mae angen mynd i’r afael â hynny fel bod gan fusnesau – boed yn rhai tymhorol o ran masnach, yn gofrestredig ar gyfer TAW ai peidio, neu am ba reswm bynnag arall – gyfle teg i gael gafael ar gymorth mawr ei angen gan y Llywodraeth.”