Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi cymunedau rhwystredig sy’n dal i fyw gyda darpariaeth band eang is na’r safon. Dywedodd Mr Davies fod trigolion ardaloedd fel Mynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, yn dioddef band eang araf ac ysbeidiol iawn, law yn llaw â thechnoleg hen ffasiwn lle mae’r gwifrau yn hongian ar bolion i bob pwrpas. Yn dilyn cyhoeddiad am y Gronfa Band Eang Gwledig ym mis Tachwedd, fe wnaeth Mr Davies roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Sir Benfro yn cael ei chyfran deg o’r arian.
Meddai Mr Davies, “Nid yw’n gyfrinach fod Sir Benfro yn hanesyddol wedi’i hanghofio pan ddaw hi’n fater o gyflwyno gwasanaethau band eang, ac mae’n hen bryd i gymunedau fel Mynachlog-ddu gael blaenoriaeth o’r diwedd. Mae’n ardal allweddol lle ddylai’r Llywodraeth gydweithio ar bob lefel er mwyn gwella darpariaeth band eang Sir Benfro. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw cael mynediad at wasanaeth band eang deche – gyda mwy a mwy o wasanaethau’n gweithredu ar-lein, mae’n hanfodol fod pobl yn gallu mynediad at y rhyngrwyd er mwyn siopa, bancio a chymdeithasu. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n neilltuo cyfran deg o gyllid y Gronfa Band Eang Gwledig i Sir Benfro, fel ein bod ni o’r diwedd yn cael y buddsoddiad angenrheidiol i ddal lan gyda gweddill Cymru.”