Yn ddiweddar, bu Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol, yn ymweld â swyddfa Cyngor ar Bopeth yn Hwlffordd i gyfarfod Geraldine Murphy y Prif Weithredwr, Alan Furlong, Ymddiriedolwr a Nikki Neufeld, yr Uwch Reolwr Cyngor. Cafodd Paul y cyfle hefyd i siarad â gweithwyr achos yn ystod ymweliad gwerth chweil.
Sefydlwyd Cyngor ar Bopeth Sir Benfro fel elusen annibynnol leol yn 2008 ac maen nhw’n darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb. Gall pobl sydd angen cymorth ei gael wyneb yn wyneb drwy ymweld â’r swyddfa yn 43 Cartlett, Hwlffordd, ei gael dros y ffôn neu dros e-bost. Yn ogystal â’r swyddfa yn Hwlffordd, cynhelir sesiynau galw heibio yn Abergwaun, Tyddewi, Wdig ac Aberdaugleddau, ynghyd â lleoliadau yn Ne’r sir (ewch i www.pembscab.org/opening-times am fanylion).
Meddai Paul Davies am ei ymweliad: “Roeddwn i’n falch iawn o gyfarfod Prif Weithredwr, staff a gwirfoddolwyr Cyngor ar Bopeth Sir Benfro yn Hwlffordd. Maen nhw’n amlwg yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i’r bobl sy’n eu defnyddio, ac mae ganddyn nhw arbenigedd mewn sawl maes pwnc.”
“Roedd hi’n braf cael cyfarfod rhai o’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith cystal ynghyd â staff Cyngor ar Bopeth. A hithau’n Wythnos Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 7 Mehefin, os oes gennych chi ddiddordeb mewn rôl lle’r ydych chi’n amlwg yn helpu pobl, yna cysylltwch â Cyngor ar Bopeth Sir Benfro ar 01437 767939.”
DIWEDD
Pennawd llun: Paul Davies AC, Nikki Neufeld (Uwch Reolwr Cyngor), Geraldine Murphy (Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Benfro) ac Alan Furlong (Ymddiriedolwr)