Yn ddiweddar, mynychodd Paul Davies AC Preseli Sir Benfro dderbyniad bwyd dan ofal NFU Cymru yn y Cynulliad i ddathlu cynnyrch Cymru a diwydiant bwyd Cymru. Cafodd Mr Davies y cyfle i gyfarfod aelodau NFU Cymru a chynrychiolwyr o’r diwydiant amaethyddol a dathlu ansawdd uchel bwyd o Gymru. Bu hefyd yn trafod y materion sy’n wynebu’r diwydiant bwyd yng Nghymru heddiw.
Meddai Paul Davies AC Preseli Sir Benfro, “Mae wastad yn bleser mynychu derbyniad sy’n cydnabod gwerth ffermio yng Nghymru. Mae enw da Cymru am fwyd gwych yn gydnabyddiaeth heb ei hail o waith caled ffermwyr ledled y wlad ac mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi’r sector.”
Ychwanegodd, “Mae NFU Cymru yn llygaid eu lle yn tynnu sylw at y diffyg polisi cydgysylltiedig rhwng y sectorau bwyd a ffermio yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cnoi cil ar hyn ac yn cyflwyno polisi strategol trosfwaol fydd yn ymgorffori’r ddau sector.”
“Mae Sir Benfro yn amlwg yn chwarae rhan bwysig yn niwydiant bwyd Cymru ac o ystyried mai amaethyddiaeth yw un o brif ddiwydiannau’r ardal, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn hyrwyddo ymdrechion ffermwyr sy’n gweithio’n galed ac yn dathlu eu cynnyrch pob cyfle gawn ni.”