Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi ymweld â ‘Glan-yr-afon’ yn ddiweddar, llyfrgell, oriel a chanolfan gymunedol yng nghanol Hwlffordd. Aeth Mr Davies draw i ddysgu mwy am y cyfleusterau, yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol ac agoriad swyddogol yn gynharach eleni.
Meddai Mr Davies, “Roedd hi’n bleser ymweld â Glan-yr-afon a gweld yr holl amrywiaeth o gyfleusterau sy’n cael eu cynnig i bobl yng nghanol y dref. Mae’n hollbwysig bod canolfannau diwylliannol fel hyn ar gael yn ein cymunedau lleol ac mae’n wych gweld y llyfrgell a’r oriel yn mynd o nerth i nerth. Mae cymaint i’w weld a’i wneud yng Nglan-yr-afon, a rhywbeth i’r teulu cyfan hefyd, felly rwy’n annog pobl Hwlffordd a’r cyffiniau i fanteisio ar y caffaeliad cymunedol rhagorol hwn a galw draw os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod!”