Mae Paul Davies, yr Aelod Cynulliad lleol wedi tynnu sylw Siambr y Cynulliad at y data mesurau gofal llygaid diweddar, sy’n dangos mai dim ond 60.6% o gleifion a welwyd o fewn dyddiad targed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Pwysleisiodd Mr Davies fod y ffigur wedi gostwng bron i 7% ers mis Ebrill diwethaf, pan gafodd 67.5% o gleifion eu gweld o fewn yr amser targed, ac mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd wedi perfformio waethaf yng Nghymru gyfan.
Meddai Mr Davies, “Roeddwn i’n falch o godi’r mater hollbwysig hwn gyda’r Gweinidog Iechyd ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cymryd camau’n syth i fynd i’r afael â’r mater. Rwy’n arbennig o bryderus fod y cleifion hyn sy’n disgwyl am driniaeth mewn perygl o gael niwed na ellir ei wyrdroi neu ganlyniadau difrifol wael os byddant yn colli eu dyddiad targed, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Dywedodd y Gweinidog ei hun fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r holl weithlu er mwyn cyflawni’r math o ganlyniadau yr hoffem eu cael – a thra mod i’n cytuno â hynny, mae’n hanfodol bod y mater yma’n cael blaenoriaeth frys er mwyn lleihau’r perygl i’r cleifion hynny sy’n aros am driniaeth. Byddaf yn parhau i gadw golwg ar berfformiad y bwrdd iechyd lleol yn y maes hwn ac yn dal i godi’r mater gyda Llywodraeth Cymru hyd nes bydd y ffigurau’n gwella rhywfaint.”#
Gallwch weld copi o’r trawsgrifiad yn https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/6082#A56235