Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies yn annog pobl Sir Benfro i enwebu eu hoff fusnesau ledled y Sir am Wobr y Gynghrair Cefn Gwlad. Mae gwobrau’r Gynghrair Cefn Gwlad, sy’n cael eu galw’n ‘Ocars Cefn Gwlad’ hefyd, yn cydnabod rhagoriaeth mewn mentrau gwledig mewn categorïau amrywiol o’r cigydd gorau, i’r siop bentref neu swyddfa bost gorau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau wedi’i ymestyn i ddydd Sul 5 Ionawr 2020, felly mae digon o amser i enwebu’ch hoff fusnes ar gyfer gwobr.
Meddai Mr Davies: “Mae gwobrau’r Gynghrair Cefn Gwlad yn ffordd ragorol o gydnabod yr hyn sydd gennym ledled y wlad – ac wrth gwrs, o ran busnesau gwledig o’r radd flaenaf, does unman yn debyg i Sir Benfro. Mae gennym gasgliad anhygoel o gynhyrchwyr bwyd, tafarndai a busnesau gwledig eraill ac mae’r oscars cefn gwlad yn rhoi cyfle rhagorol i ni gydnabod eu gwaith caled. Felly, gobeithio y bydd pobl ledled Sir Benfro yn cyflwyno enwebiadau cyn y dyddiad cau ym mis Ionawr. Beth am i ni wneud popeth a allwn ni i godi proffil ein busnesau gwledig a sicrhau bod gan Sir Benfro gynrychiolaeth dda yn y rowndiau terfynol rhanbarthol a chenedlaethol y flwyddyn nesaf!”