Mae’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies wedi ategu galwadau am gyflwyno cymorth brys i’r sector ffermio llaeth yng Nghymru. Mae Mr Davies, sy’n hanu o gefndir ffermio llaeth ei hun, wedi rhybuddio y gallai fod yn drychinebus i’r sector yng Nghymru os na fydd cymorth yn cael ei gynnig yn fuan iawn.
Dywedodd Mr Davies, “Mae ffermio yn rhan annatod o economi, diwylliant a hunaniaeth Cymru, felly mae’n hanfodol bod cymorth yn cael ei gynnig i’r busnesau hynny ar fyrder. Rydym yn gwybod bod rhai ffermydd wedi wynebu toriadau sylweddol mewn prisiau a gohirio taliadau, ac mae rhai hyd yn oed wedi gorfod gwaredu llaeth yn syml am nad oes marchnad ar ei gyfer. Mae’r pandemig hefyd yn bygwth gwanhau proseswyr Cymru, yn enwedig y rhai sy’n cyflenwi’r sector gwasanaethau bwyd, ac mae hynny’n creu perygl o golli mwy o gapasiti prosesu yn y tymor hwy, a gallai hynny yn ei dro arwain at fewnforio mwy o laeth neu gynnyrch llaeth. Felly, mae’n rhaid i Lywodraethau ar bob lefel gydweithio i fynd i’r afael â’r pryderon real iawn sy’n wynebu’r sector llaeth a chynnig cefnogaeth wedi’i dargedu y mae angen dirfawr amdano, a hynny ar fyrder.”