Yn ddiweddar, mynychodd Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol apêl Teganau Nadolig a lansiwyd gan yr elusen leol PATCH. Cafodd apêl flynyddol teganau Nadolig PATCH ei lansio ddydd Gwener 25 Hydref yn Neuadd yr Eglwys Albany yn Hwlffordd.
Meddai Paul Davies: “Roedd yn bleser gen i fynychu lansiad apêl flynyddol Teganau PATCH ac roedd hi’n braf iawn cael dal i fyny gyda Tracy a’i thîm. Dyma achos da iawn, a bydd yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn gallu mwynhau’r Nadolig eleni.”
Ychwanegodd: “Mae pobl Sir Benfro wastad wedi bod yn hael ac rwy’n gwybod eich bod wedi rhoi llawer o gefnogaeth i PATCH. Felly, gobeithio y bydd unigolion, sefydliadau a busnesau lleol yn cymryd rhan ac yn cefnogi eto eleni. Mae’r Nadolig yn adeg arbennig i blant a gobeithio y bydd apêl PATCH yn llwyddiannus iawn ac y bydd plant ledled Sir Benfro yn mwynhau’r Nadolig y maen nhw’n ei haeddu.”