Yn ddiweddar, bu’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd i ddathlu Wythnos Gofal Hosbisau 2019. Yn ystod y digwyddiad, cyfarfu Mr Davies â chynrychiolwyr hosbisau Sir Benfro, Sefydliad Paul Sartori, a oedd yno i gefnogi’r ymgyrch “This is What it Takes”. Nod yr ymgyrch yw dangos yr holl waith sydd y tu ôl i redeg hosbisau heb eu hail ledled Cymru. Dyma thema Wythnos Gofal Hosbisau 2019, sy’n rhedeg tan 13 Hydref 2019, ac mae’n gyfle i ddathlu gwaith anhygoel hosbisau ledled y DU.
Meddai Mr Davies: “Rwy’n falch iawn o gefnogi Wythnos Gofal Hosbisau 2019, a phleser o’r mwyaf oedd croesawu Sefydliad Paul Sartori i’r Senedd i glywed mwy am y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i bobl sy’n byw yn Sir Benfro. Rwy’n hynod falch o’r gwaith mae Sefydliad Paul Sartori yn ei wneud yn lleol, ac mae ei bresenoldeb o fudd mawr i’r sir. Wrth gwrs, mae hosbisau ledled Cymru yn wynebu sawl her o hyd ac, er na all Llywodraethau laesu dwylo, mae Wythnos Gofal Hosbisau yn gyfle gwych i fyfyrio’n ehangach ar y gwaith maen nhw’n ei wneud yn darparu gofal yn y gymuned ac yn nes at adref.”