Mae ymgyrch i gefnogi gofalwyr ifanc ledled Cymru yn cael ei chefnogi gan Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, Paul Davies. Cyn y Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc ar 30 Ionawr, mae Mr Davies wedi cyhoeddi ei gefnogaeth i ofalwyr ifanc drwy godi ymwybyddiaeth o rai o’r heriau y maent yn eu hwynebu a galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ymdrech i gynorthwyo gofalwyr ifanc.
Meddai Mr Davies, “Rydym yn gwybod bod mwy nag un o bob pum disgybl ysgol uwchradd o gefndiroedd llai cefnog yng Nghymru yn cydbwyso ysgol gyda chyfrifoldebau gofalu ac mae’n hollbwysig bod ganddynt fynediad i gymaint o gymorth â phosibl. Mae gofalwyr ifanc Cymru yn arwyr di-glod ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud mwy i’w helpu i reoli eu cyfrifoldebau fel y gallant fyw bywyd mor hapus ac iach â phosib. Byddaf yn gwneud popeth a allaf i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull ysgogi sydd ganddi i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru ac rwy’n annog pawb i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch bwysig hon ar drothwy’r Diwrnod Gofalwyr Ifanc”.