Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw'r Bwrdd Iechyd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru, o ran amseroedd aros am driniaethau canser. Dengys y ffigurau ar gyfer mis Mehefin 2019, sef y mis cyntaf y gellir ei gymharu wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r llwybr triniaeth canser sengl o fewn 62 diwrnod, bod 84.7% o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn targed Llywodraeth Cymru. Yna, syrthiodd y ffigur hwnnw'n sylweddol i 67.2% ym mis Medi, gostyngiad o 17.5%.
Meddai Mr Davies, "Mae'r ystadegau a ryddhawyd yn rhai digalon iawn, ac rwy'n gobeithio y bydd rheolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu ar frys i fynd i'r afael â nhw. Mae'n gwbl annerbyniol bod cynifer o bobl yn aros am driniaeth a bod yr amseroedd aros hynny'n codi. Mae'n rhaid bod y methiant parhaus i gyrraedd y targed hwn yn y Gorllewin yn destun pryder i Lywodraeth Cymru ac mae'n amlwg bod yn rhaid cymryd camau pellach i atal y broblem hon rhag gwaethygu yn y dyfodol. Rhaid i gleifion ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda deimlo'n hyderus, pan fyddant yn wynebu cyflwr sy'n newid bywyd, bod gwasanaethau ar gael mewn modd amserol a phriodol.”