Mae Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Sir Benfro, wedi cyflwyno dadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i amddiffyn y cofebion hynny ledled Cymru. Gofynnodd Mr Davies i Lywodraeth Cymru ymdrechu’n llawer caletach i amddiffyn cofebion rhyfel yng Nghymru drwy roi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i amddiffyn y cofebion yn eu hardaloedd.
Yn siarad o’r Senedd, dywedodd Mr Davies, “Roedd hi’n fraint gen i gyflwyno dadl yn galw am well amddiffyniad i gofebion rhyfel yng Nghymru a braf iawn oedd clywed y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn ymrwymo i edrych ar y mater eto. Mae gwaith cadarnhaol iawn wedi’i wneud ledled Cymru – ond yn anffodus rydym ni’n dal i glywed am achosion o fandaliaeth a dwyn ac felly mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i’r mater hwn ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid i amddiffyn ein cofebion rhyfel am flynyddoedd i ddod.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion – Mae trawsgrifiad o’r ddadl i’w chlywed yma (cychwyn am 17.57pm) - https://www.senedd.tv/Meeting/Archive/c8262831-1df4-42d9-b53d-2bcb6ff0195c?autostart=True