Mae'r Aelod Cynulliad lleol, Paul Davies, wedi mynegi ei siom bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â chyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Hydref, cafodd 81.1% o gleifion eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr mewn adrannau gofal brys. Y targed i gael eu gweld o fewn pedair awr yw 95 y cant.
Meddai Mr Davies, "Mae'n siomedig dros ben gweld nad yw nifer sylweddol o gleifion sy'n byw o fewn rhanbarth Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cael eu gweld o fewn cyfnod o bedair awr. Er gwaethaf ymdrechion y staff rhagorol sydd gennym yn y GIG, mae rheolwyr y Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddiffyg yn nifer y cleifion sy'n cael eu gweld o fewn pedair awr. Rhaid inni gofio bod y sawl sy'n mynd i adran damweiniau ac achosion brys yno i dderbyn gofal cyn gynted ag y bo modd ac y gallai unrhyw oedi gael sgil-effeithiau difrifol ar iechyd y claf hwnnw. Felly, rhaid i'r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ymdrechu'n galetach i wyrdroi'r ffigurau hyn cyn gynted â phosibl.”