Mae ymchwil Cyngor ar Bopeth Cymru yn dangos bod sgiamwyr wedi cysylltu â bron i 60% o bobl yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn fwy brawychus, dim ond 44% o bobl sydd wedi sôn am y peth. Gyda’u slogan “Atal, adrodd, siarad: Byddwch yn #ymwybodolosgiamiau”, mae Cyngor ar Bopeth Cymru a Paul Davies AC yn annog pobl i siarad am eu profiadau a chadw llygad ar eraill, yn enwedig pobl sy’n agored i niwed yn ystod y gwyliau.
Roedd mwy na hanner y sgiamiau y cafodd gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth wybod amdanynt yn y flwyddyn ddiwethaf wedi defnyddio hen ddulliau dibynadwy, nid rhai ar-lein. Mae’r triciau a ddefnyddiwyd gan sgiamwyr yn cynnwys gwerthu ar garreg y drws heb ganiatâd, anfon drwy’r post a galw’n ddirybudd, gyda phobl yn colli £3,000 ar gyfartaledd. Mae twyllwyr sy’n defnyddio’r dulliau hyn gan amlaf yn targedu pobl hŷn, sy’n fwy agored i niwed.
Meddai Mr Davies: “Mae’n gwbl hanfodol fod pawb yn cadw llygad barcud ac yn #ymwybodolosgiamiau. Gofalwch am ffrindiau, teulu neu gymdogion a allai fod mewn perygl a rhowch wybod i Gyngor ar Bopeth neu’r Safonau Masnach os ydych chi’n poeni bod rhywun yn cael eu sgiamio. Yn anffodus, mae pobl sy’n cael eu targedu gan sgiâm yn cadw’r peth yn dawel yn hytrach na dweud wrth rywun, ond mae mor bwysig siarad am y peth – er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad o sgiamiau lleol a sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel â phosibl.”
Meddai Rebecca Wooley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru: “Atal, adrodd, siarad: Byddwch yn #ymwybodolosgiamiau” yw ein neges i ddefnyddwyr dros y Nadolig. Rydym ni’n gweld bod llawer o bobl wedi dod i gysylltiad â sgiamwyr, ond mai ychydig iawn sy’n siarad am y peth.
Weithiau gall pobl deimlo cywilydd ac yn wirion wrth roi gwybod am eu profiadau, ond yn anffodus mae hyn yn golygu nad yw’r twyllwyr yn cael eu dal. Mewn gwirionedd, gall pawb fod yn anlwcus a chael ein targedu gan sgiâm. Gobeithio y bydd yr ymgyrch Ymwybyddiaeth o Sgiamiau yn annog pobl i rannu eu profiadau ag eraill a dysgu sut i atal sgiamwyr rhag rhedeg i ffwrdd ag arian pobl.”