Yn ddiweddar, aeth Paul Davies AC ar ymweliad â chwmni GenPower o Sir Benfro. Mae’r cwmni wedi ehangu’n sylweddol ers ei sefydlu 13 blynedd yn ôl, a bellach mae’n cyflogi 50 yn ei bencadlys yn Noc Penfro.
Cafodd GenPower ei gorffori ym mis Medi 2006 gan y gŵr a’r wraig Roland a Lisa Llewellin. Maen nhw wedi gweithio gyda’r cwmni byd-eang Hyundai ers degawd, a nhw sydd â’r hawliau egsliwsif i frand Hyundai yn y DU ac Iwerddon. Ar ben hynny, mae GenPower yn dosbarthu nwyddau Hyundai i nifer o wledydd Affrica - gan gynnwys peiriannau torri lawnt, golchwyr pwysedd, generaduron a phympiau dŵr i enwi dim ond rhai o’u nwyddau.
Bellach, mae ganddyn nhw siop yn rhan o’r pencadlys ar Issac Way oddi ar Heol Llundain, Doc Penfro, er mwyn rhoi cyfle i bobl weld yr ystod lawn o gynhyrchion sydd ar gael.
Gan gyfeirio at ei ymweliad, meddai Paul Davies AC “Fe wnaeth maint gwaith GenPower greu cryn argraff arna i. Mae’r adeilad 120,000 troedfedd sgwâr yn fwrlwm o weithgarwch, gyda stoc yn cael ei anfon at gwsmeriaid longau. Mae GenPower wedi buddsoddi yn y dull o anfon stoc, ac roedd cyflymder ac effeithiolrwydd paratoi’r cynhyrchion i’w cludo i gwsmeriaid yn amlwg iawn yn ystod fy ymweliad.”
“Rwy’n rhyfeddu at y ffaith fod y cwmni’n cyflogi hanner cant o staff erbyn hyn ac am ehangu ymhellach. Mae’n wych eu bod nhw’n masnachu o Sir Benfro, ac yn amlwg yn rhoi’r sir ar lwyfan byd. Dymuniadau gorau i GenPower wrth ehangu at y dyfodol.”
DIWEDD
Llun (chwith i’r dde): Roland Llewellin (Rheolwr Gyfarwyddwr), Paul Davies AC, Myles Bamford Lewis (Rheolwr Siop), Jason Tomlin (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)